{bc}
cornerstone

Welsh Headings

Cardiff Council
Cardiff, GBR
Temporary
Mid
Onsite
Discovered 2 days ago
Free

Job Fit Check

Base Career helps you apply smarter for this job.

?%
Ready to Scan
Smart Apply

Full Job Posting

Am Y Gwasanaeth

Mae’r Adran Adennill yn y Gwasanaethau Refeniw yn gyfrifol am gasglu Treth Gyngor, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (Ardrethi Busnes) Dirwyon Parcio a Throseddau Traffig sy’n Symud, sydd heb eu talu.

Am Y Swydd

Mae cyfle dros dro wedi codi i ymuno â’r Is-adran Adennill yn y Gwasanaethau Refeniw yn ystod cyfnod mamolaeth tan fis Medi 2027. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gymryd camau prydlon a phriodol i adennill dyledion sy'n ddyledus i'r Cyngor, yn unol â Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.

Bydd dyletswyddau o ddydd i ddydd yn cynnwys ymdrin â galwadau i mewn ac allan gydag aelodau o'r cyhoedd ynghylch y Dreth Gyngor, Ardrethi Busnes, Dirwyon Parcio, a thramgwyddau Traffig sy’n Symud sy'n ddyledus. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio gyda chwsmeriaid i nodi'r dulliau mwyaf effeithiol a phriodol o adennill balansau sy'n ddyledus. Bydd hyn yn gofyn am rywfaint o negodi; felly, mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf yn hanfodol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn, bydd yn dangos agwedd gadarnhaol a hyblyg at waith, ac yn gallu bodloni terfynau amser a thargedau perfformiad. Rhaid iddo fod yn hyderus wrth flaenoriaethu llwythi gwaith a meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol. Mae angen gallu i gasglu a dadansoddi data a nodi cyfleoedd ar gyfer adennill hefyd.

Rhaid i ddeiliad y swydd allu dangos empathi wrth ddelio â sefyllfaoedd sensitif a chynnig cefnogaeth gywir ac ystyrlon i gwsmeriaid agored i niwed.

Mae hon yn rôl allweddol sy'n sicrhau bod incwm hanfodol yn cael ei sicrhau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Byddwch yn unigolyn llawn cymhelliant sy'n gallu gweithio dan bwysau gan fod cwrdd â therfynau amser yn rhan o’r swydd. Yn ogystal, bydd rhaid monitro a chadw cofnodion, ac o ganlyniad bydd angen sgiliau TG da.

Mae'r swydd yn cynnwys cyswllt ffôn dyddiol ag aelodau o'r cyhoedd; felly mae'n hanfodol eich bod yn gallu dangos sgiliau cyfathrebu hyderus a phendant ac mae sgiliau negodi cryf yn ofynnol. Oherwydd natur y rôl, gall y galwadau fod yn hir a chymhleth ac felly byddai profiad o adennill dyledion o fantais.

Mae gwybodaeth dda am y Dreth Gyngor / Ardrethi Busnes a Throseddau Traffig yn ddymunol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Swydd dros dro yw hon tan fis Medi 2027

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.

Rhaid i chi fod yn barod i fod yn y swyddfa yn Neuadd y Sir 5 diwrnod yr wythnos am gyfnod llawn y cyfnod hyfforddi a all fod rhwng 6 a 9 mis.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

I gael sgwrs anffurfiol, ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd / Manyleb Person, cysylltwch â Joe Norman / Ciara O’Hanlon / Sonia Marshall / Fiona Williams ar (029) 20871280.

Rydym yn deall y gallech chi ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Canllawiau Gwneud Cais

Gwneud cais am swydd â ni

Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Pecyn Recriwtio

Siarter Cyflogeion

Recriwtio Cyn-droseddwyr

Nodyn Preifatrwydd

Apply for this job in 1 click

Skip the repetitive application forms

Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.

Sarah M.James T.Maya R.

Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career

Start Free Today

More from this employer

More jobs at Cardiff Council