ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Job Fit Check
Base Career helps you apply smarter for this job.
Full Job Posting
Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes.
Ynglŷn â’r swydd
Bydd y Cogydd Cynorthwyol yn gyfrifol am gynorthwyo Rheolwr y Gegin gyda phob agwedd ar y busnes a gweithgareddau gwasanaeth yn y cyfleuster arlwyo.
Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi
Yn hyblyg ac yn gallu addasu i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Canolbwyntio ar gwsmeriaid, gan sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
Gallu gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr fel rhan o dîm neu o’ch pen a’ch pastwn eich hun.
Yn agored i newid a ffyrdd gwahanol o weithio.
Yn gefnogol i’ch cydweithwyr, ac agwedd gadarnhaol at sicrhau gwasanaeth o’r radd flaenaf.
Gwybodaeth ychwanegol
Swydd ran-amser yw hon, a bydd y deiliad yn gweithio 20 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn. Mae’r cyflog a ddangosir, fodd bynnag, am 37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn, felly caiff ei dalu ar sail pro-rata yn unol â hyn.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Canllaw ar Wneud Cais
Ymgeisio am swyddi gyda ni
Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
Siarter Cyflogeion
Recriwtio Cyn-Droseddwyr
Hysbysiad Preifatrwydd
About Cardiff Council
The local government authority for Cardiff, Wales.
Visit company websiteJobs and hiring trendsApply for this job in 1 click
Skip the repetitive application forms
Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.
Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career
More from this employer
More jobs at Cardiff Council
MOBILE COOK & DEVELOPMENT OFFICER
Cardiff, GBR
COGYDD SYMUDOL A SWYDDOG DATBLYGU
Cardiff, GBR
RHEOLWR GWEITHREDOL: ARDAL LEOL A GOFAL
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
OM LOCALITY CARE
Cardiff, GBR
FLEET SUPPORT OFFICER
Cardiff, GBR
SWYDDOG CYMORTH FFLYD
Cardiff, GBR
Swyddog Cyngor Ariannol
Cardiff, GBR