COGYDD SYMUDOL A SWYDDOG DATBLYGU
Job Fit Check
Base Career helps you apply smarter for this job.
Full Job Posting
Am Y Gwasanaeth
Ydych chi'n frwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc? Oes gennych chi'r weledigaeth a'r awydd i fod yn rhan o dîm deinamig wrth ddarparu prydau ysgol o ansawdd uchel? Mae Gwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd yn darparu dros 28,000 o brydau maethlon bob dydd mewn 115 o ysgolion cynradd, uwchradd ac addysg arbennig, gan gefnogi cyrhaeddiad addysgol a lles ein plant a'n pobl ifanc.
Yng Ngwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd, credwn fod pob plentyn yn haeddu mynediad at brydau maethlon, blasus sy'n tanio eu dysgu a'u twf. Ein gweledigaeth yw gwella profiad addysgol plant a phobl ifanc ledled Caerdydd drwy sicrhau eu bod yn cael y profiad amser cinio gorau posibl.
Am Y Swydd
Fel Cogydd Symudol a Swyddog Datblygu, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau gweithrediad didrafferth ceginau ysgol trwy gyflenwi ar ran staff sy’n absennol a rhoi gweithgareddau gwella ar waith. Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu bwyd, yn goruchwylio staff, yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau diogelwch bwyd a maeth, ac yn darparu hyfforddiant yn y gwaith. Bydd eich rôl yn hanfodol wrth gynnal safonau uchel o ran darparu gwasanaethau a chefnogi datblygiad y tîm arlwyo.
Fel Cogydd Symudol a Swyddog Datblygu, byddwch yn goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu bwyd, yn goruchwylio staff, yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau diogelwch bwyd a maeth, yn darparu hyfforddiant yn y gwaith, yn cynnal dyletswyddau clerigol, ac yn cyfrannu at gynlluniau strategol a datblygiad staff. Bydd eich rôl yn rhan annatod o sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal wrth ddarparu gwasanaethau, ac o gefnogi gweithrediad didrafferth ceginau ysgol.
Byddwn yn cynnig y canlynol i chi
Gwaith sy’n cael Effaith: Bod yn rhan o wasanaeth sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at lwyddiant addysgol a lles plant a phobl ifanc.
Twf Proffesiynol: Cyfleoedd am ddatblygiad gyrfaol a hyfforddiant mewn amgylchedd cefnogol.
Diwylliant Cydweithredol: Gweithio gyda thîm angerddol sy'n ymroddedig i wneud gwahaniaeth.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad sylweddol o baratoi a choginio bwydlenni cymhleth fel rhan o weithrediad arlwyo aml-safle mawr. Mae sgiliau da o ran rheoli pobl, profiad o ddarparu hyfforddiant anffurfiol, ac ymrwymiad i safonau uchel ar gyfer diogelwch bwyd a chydymffurfiaeth faethol yn hanfodol. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau cyfathrebu rhagorol, agwedd gadarnhaol, a'r gallu i weithio mewn modd hyblyg ac yn annibynnol.
Gwybodaeth Ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Judith Gregory, Rheolwr Busnes Arlwyo Addysg, jgregory@caerdydd.gov.uk.
Mae'r rôl hon yn rhan-amser am 35 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn. Mae'r cyflog a hysbysebir yn seiliedig ar rôl amser llawn (37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn). Bydd y cyflog gwirioneddol yn is na'r cyflog a hysbysebir oherwydd yr oriau a'r wythnosau rhan-amser a weithiwyd.
Mae penodiad i'r swydd hon yn amodol ar wiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), gan gynnwys gwiriad Rhestr Gwaharddedig y Gweithlu Plant.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio AI ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth a ddarparwch yn gywir yn ffeithiol, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau na gwaith nad yw'n eiddo i chi eich hun.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Canllawiau Gwneud Cais
Gwneud cais am swydd â ni
Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Pecyn Recriwtio
Siarter Cyflogeion
Recriwtio Cyn-droseddwyr
Nodyn Preifatrwydd
About Cardiff Council
The local government authority for Cardiff, Wales.
Visit company websiteJobs and hiring trendsApply for this job in 1 click
Skip the repetitive application forms
Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.
Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career
More from this employer
More jobs at Cardiff Council
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
MOBILE COOK & DEVELOPMENT OFFICER
Cardiff, GBR
RHEOLWR GWEITHREDOL: ARDAL LEOL A GOFAL
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
OM LOCALITY CARE
Cardiff, GBR
FLEET SUPPORT OFFICER
Cardiff, GBR
SWYDDOG CYMORTH FFLYD
Cardiff, GBR
Swyddog Cyngor Ariannol
Cardiff, GBR