SWYDDOG CYMORTH FFLYD
Job Fit Check
Base Career helps you apply smarter for this job.
Key skills for this role
Key Skills for This Role
Full Job Posting
Am Y Gwasanaeth
Mae GTC yn gyfrifol am fflyd o dros 900 o gerbydau a thua 600 darn o offer peirianyddol bach. Mae tua 100 o'r cerbydau hyn yn gerbydau trwyddedig Gweithredwyr, RCVau yn bennaf ac yn cefnogi gweithrediadau glanhau'r ddinas. Er mwyn cefnogi'r holl asedau hyn mae gan y cyngor brif weithdy mawr yn Grangetown a 2 weithdy lloeren llai mewn canolfannau gweithredu.
Mae ein Hadran Gweinyddu Fflyd (AGFf) yn helpu i gefnogi holl swyddogaethau hanfodol y Cyngor lle mae angen cerbydau. Mae AGFf yn gwneud hyn drwy sicrhau bod cofnodion cynnal a chadw, tanwydd, trethiant, taliadau mewnol neu allanol i gyd yn digwydd yn ddidrafferth ac yn unol â rheoliadau. Gall y gwaith fod yn amrywiol ac mae angen cyfathrebu da i sicrhau bod y gwaith prysur yn aros ar y trywydd iawn.
Am Y Swydd
Rydym yn awyddus i recriwtio person sydd â phrofiad perthnasol ac sy'n gallu delio â llwyth gwaith amrywiol a heriol.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys rhoi cymorth gweinyddol i'r Adran Gweinyddu Fflyd: Gan gynnwys cynorthwyo'r Rheolwr Busnes gydag ailgodi tâl, cyfnodolion, adrannau anfonebu, delio ag ymholiadau ariannol ac archwilio ein System Technoleg Gwybodaeth Rheoli Fflyd (TGRhFf) i sicrhau cywirdeb data.
A dyletswyddau gweinyddol o ddydd i ddydd a rhoi cymorth i'r Goruchwyliwr Cymorth Fflyd gan gynnwys: Prosesu anfonebau, sicrhau bod data a gedwir yn y System Meddalwedd Rheoli Trafnidiaeth yn gywir ac yn gyfredol, ffeilio a rheoli Hysbysiadau Tâl Parcio, Derbynfa GTC, gweinyddu’r ddesg logi, codi archebion drwy SAP a Hawliadau Yswiriant.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y profiad perthnasol a bod yn hyblyg yn y ffordd y mae'n gweithio gan fod anghenion y gwasanaeth o ddydd i ddydd yn amrywio.
Rhoddir hyfforddiant a byddai'r gallu i hunan-ddatblygu'n barhaus yn ddymunol iawn. Byddai diddordeb mewn Cyfrifeg/Cyllid yn ddymunol.
Disgwyliwn i’r unigolyn a benodir gymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau rhagoriaeth, gweithio gydag eraill i gyflawni’r canlyniadau gorau posib, ymateb yn gadarnhaol i newid a chyfleoedd newydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael a meddwl a gweithredu gyda golwg ar hyrwyddo buddiannau’r Cyngor.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Cath Bevan, Swyddog Rheoli Busnes, ar 07759923062 neu e-bostiwch cath.bevan@caerdydd.gov.uk
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Rydym yn deall y gallech chi ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Canllaw ar Wneud Cais
Ymgeisio am swyddi gyda ni
Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Pecyn Recriwtio
Siarter Cyflogeion
Recriwtio Cyn-droseddwyr
Hysbysiad Preifatrwydd
About Cardiff Council
The local government authority for Cardiff, Wales.
Visit company websiteJobs and hiring trendsApply for this job in 1 click
Skip the repetitive application forms
Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.
Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career
More from this employer
More jobs at Cardiff Council
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
MOBILE COOK & DEVELOPMENT OFFICER
Cardiff, GBR
COGYDD SYMUDOL A SWYDDOG DATBLYGU
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
OM LOCALITY CARE
Cardiff, GBR
RHEOLWR GWEITHREDOL: ARDAL LEOL A GOFAL
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
FLEET SUPPORT OFFICER
Cardiff, GBR
Swyddog Cyngor Ariannol
Cardiff, GBR