{bc}
cornerstone

Swyddog Llety â Chymorth (Anghenion Cymhleth)

Cardiff Council
Cardiff, GBR
Full-time
Entry
Onsite
Discovered 2 days ago
Free

Job Fit Check

Base Career helps you apply smarter for this job.

?%
Ready to Scan
Smart Apply

Full Job Posting

Am Y Gwasanaeth

Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sydd angen cymorth tai.

Mae ein gwasanaethau'n gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, ac oherwydd newidiadau diweddar mae ein gwasanaeth wedi ehangu i ddiwallu anghenion y bobl sy'n defnyddio ein darpariaeth.

Am Y Swydd

Rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o swyddi o fewn ein Gwasanaeth Anghenion Cymhleth, a bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus weithio 3 shifft yr wythnos (8yb–8yh) ar batrwm rota cylchol, sy’n cynnwys gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc.

Mae rôl y Swyddog Llety â Chymorth yn gyfle cyffrous i unigolion ymroddedig gyfrannu at ddarparu gwasanaethau llety i bobl sengl.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm sy’n gyfrifol am bob agwedd ar reoli uned llety â chymorth, gan gynnwys rheoli’r adeilad, rheoli tai, gweithrediad dydd i ddydd y gwasanaeth, ac ymgysylltu â phreswylwyr.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Rydym yn chwilio am unigolion deinamig, llawn cymhelliant a chreadigol sydd â'r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous, ac rydym yn awyddus i ddenu pobl o amrywiaeth o gefndiroedd gwaith i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Bydd profiad profedig o weithio gyda phobl sy'n arddangos ymddygiadau cymhleth, ynghyd â dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu pobl sy'n ddigartref, yn fantais.

Gall yr amgylchedd gwaith fod yn heriol ar adegau, felly bydd y gallu i aros yn dawel ac yn broffesiynol o dan bwysau yn fantais. Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi'r tîm rheoli ym mhob agwedd ar weithrediad y gwasanaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae 2 swydd barhaol ar gael.

Mae’r swyddi hyn yn amodol ar wiriadau Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Mae’r swyddi gwag hyn yn addas ar gyfer rhannu swydd.

Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu Cymraeg effeithiol hyd at Lefel 3 – Canolradd.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Gan fod hon yn rôl mor ddiddorol, rydym yn eich annog i gael sgwrs anffurfiol ymlaen llaw drwy gysylltu â SpecialistHousingWFD@caerdydd.gov.uk.

Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac adnoddau eraill wrth gwblhau eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt yn eiddo i chi eich hun.

Sylwer nad yw’r Cyngor yn derbyn CVau. Wrth gwblhau adran y wybodaeth ategol yn eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at y canlynol ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen cyn cwblhau eich cais:

Canllawiau Ymgeisio

Gwneud Cais am Swydd gyda Ni

Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

Siarter y Gweithiwr

Recriwtio Cyn-droseddwyr

Hysbysiad Preifatrwydd

Apply for this job in 1 click

Skip the repetitive application forms

Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.

Sarah M.James T.Maya R.

Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career

Start Free Today

More from this employer

More jobs at Cardiff Council