{bc}
cornerstone

Swyddog Hwb

Cardiff Council
Cardiff, GBR
Temporary
Entry
Onsite
Discovered 2 weeks ago
Free

Job Fit Check

Base Career helps you apply smarter for this job.

?%
Ready to Scan
Smart Apply

Full Job Posting

Am Y Gwasanaeth

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymrwymedig sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â thîm Hyb y Dwyrain yn Hyb Llanrhymni a Thredelerch. Mae’r hyb yn cynnig cyngor rheng flaen proffesiynol i gwsmeriaid ar y Budd-dal Tai a chynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor; Tai, gan gynnwys y Ddeddf Diwygio Lles, ac ystod eang o wasanaethau’r Cyngor, gan gynnwys y gwasanaeth llyfrgelloedd.

Am Y Swydd

Bydd gennych brofiad o weithio gyda chwsmeriaid, wyneb yn wyneb yn ddelfrydol, a byddwch yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o safon i gwsmeriaid.

Rhoi gwasanaeth wyneb-yn-wyneb proffesiynol o safon uchel, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Rhoi cyngor ar Fudd-dal Tai, y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Lles, Arian, Diwygio Lles, Ymholiadau Tai, Atal Digartrefedd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cyffredinol y Cyngor, gan ddatrys ymholiadau ar y cam cyswllt cyntaf lle bynnag y bo’n bosibl.

Cynorthwyo wrth ddarparu gwasanaeth llyfrgell llawn a chymryd rhan wrth gynnal digwyddiadau’r Hyb/Llyfrgell.

Ymgysylltu â phartneriaid i annog cynifer o bobl â phosibl i ddefnyddio'r Hyb, gan drefnu digwyddiadau ac annog cyfranogiad tenantiaid.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG da a byddwch yn gallu datrys anghydfod mewn modd cadarnhaol ac adeiladol. Byddwch yn gweithio’n dda mewn tîm a bydd gofyn i chi fod yn hyblyg, yn enwedig mewn perthynas â lleoliad eich gwaith, a all amrywio.

Byddai gwybodaeth o ieithoedd eraill yn fantais.

Gwybodaeth Ychwanegol

Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2027

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Canllawiau Gwneud Cais

Gwneud cais am swydd â ni

Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Pecyn Recriwtio

Siarter Cyflogeion

Recriwtio Cyn-droseddwyr

Nodyn Preifatrwydd

Apply for this job in 1 click

Skip the repetitive application forms

Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.

Sarah M.James T.Maya R.

Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career

Start Free Today

More from this employer

More jobs at Cardiff Council