{bc}
cornerstone

SUPPORTED ACCOMMODATION OFFICER

Cardiff Council
Cardiff, GBR
Full-time
Entry
Onsite
Discovered 2 weeks ago
Free

Job Fit Check

Base Career helps you apply smarter for this job.

?%
Ready to Scan
Smart Apply

Full Job Posting

Am Y Gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth Tai Arbenigol yn cynnig llety, cyngor a chymorth wedi’i deilwra i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai a chymorth ledled Caerdydd. Gan weithio ar draws ystod o wasanaethau, mae'r adran yn cefnogi pobl a allai fod yn ddigartref, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sy'n profi heriau cymhleth, gan eu helpu i gael mynediad at lety diogel, cynnal tenantiaethau a symud tuag at fwy o sefydlogrwydd ac annibyniaeth.

Mae ein gwasanaethau'n gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gyda ffocws ar ddiogelu, gweithio mewn partneriaeth a chynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar y person sy'n diwallu anghenion amrywiol y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu.

Am Y Swydd

Mae'r Swyddog Llety Arbenigol yn chwarae rôl allweddol wrth greu amgylchedd diogel, croesawgar wedi’i reoli'n dda i bobl ag anghenion tai a chymorth. Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil sy'n delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid gan weithio oriau swyddfa arferol, lle byddwch yn cefnogi’r gwaith o reoli bloc llety anghenion cyffredinol o ddydd i ddydd, adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a phroffesiynol â phreswylwyr, ac yn helpu pobl i gael mwy o sefydlogrwydd ac annibyniaeth. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys ymgymryd â dyletswyddau rheoli tenantiaeth, cefnogi gweithgareddau rheoli adeiladau a chydymffurfio, a gweithio'n rhagweithiol gyda phreswylwyr a chydweithwyr i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ffordd adeiladol a chefnogol. Yn anad dim, mae hwn yn gyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl fel rhan o dîm ymroddedig sy'n cynnig cymorth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y person.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Rydym yn chwilio am rywun tosturiol, gwydn a llawn cymhelliant, gydag ymrwymiad gwirioneddol i gefnogi pobl ag ystod o anghenion tai a chymorth. Byddwch yn hyderus wrth adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, gan gyfathrebu'n effeithiol a gweithio'n ddi-gynnwrf ac yn broffesiynol mewn sefyllfaoedd heriol. Byddem yn croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion sydd â phrofiad yn y maes tai, cymorth neu wasanaethau cysylltiedig, ochr yn ochr â dealltwriaeth o ddiogelu, ffiniau proffesiynol, rheoli tenantiaethau a phwysigrwydd darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid. Yn anad dim, rydym yn chwilio am rywun sy'n rhannu ein gwerthoedd, sydd wedi ymrwymo i helpu pobl i symud ymlaen yn gadarnhaol, ac sydd eisiau bod yn rhan o dîm sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon bob dydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb. Os hoffech ddysgu mwy am y rôl ar ôl darllen yr hysbyseb swydd a'r disgrifiad swydd / manyleb person, cysylltwch â Tom Westgarth drwy e-bost ar Thomas.Westgarth3@caerdydd.gov.uk.

Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.

Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :

Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais

Canllaw ar Wneud Cais

Ymgeisio am swyddi gyda ni

Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Siarter Cyflogeion Recriwtio Cyn-droseddwyr Hysbysiad Preifatrwydd

Siarter Cyflogeion

Recriwtio Cyn-droseddwyr

Hysbysiad Preifatrwydd

Apply for this job in 1 click

Skip the repetitive application forms

Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.

Sarah M.James T.Maya R.

Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career

Start Free Today

More from this employer

More jobs at Cardiff Council