{bc}
cornerstone

Rheolwr Prosiectau Gwerth Cymdeithasol (Datblygu ac Adfywio)

Cardiff Council
Cardiff, GBR
Full-time
Mid
Hybrid
Discovered 2 weeks ago
Free

Job Fit Check

Base Career helps you apply smarter for this job.

?%
Ready to Scan
Smart Apply

Full Job Posting

Am Y Gwasanaeth

Ydych chi'n angerddol am greu cyfleoedd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl?

Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiectau Gwerth Cymdeithasol profiadol a chymhellol i arwain y gwaith o gyflawni canlyniadau gwerth cymdeithasol ar draws rhaglen gyfalaf Cyfarwyddiaeth Datblygu a Thwf y Cyngor. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i wneud y mwyaf o effaith gadarnhaol buddsoddi yn y sector cyhoeddus, gan sicrhau bod ein prosiectau datblygu yn darparu buddion effeithiol i'n cymunedau ledled Caerdydd.

Gan weithio yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu partneriaethau, creu cyfleoedd i bobl leol, a helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau drwy gyflogaeth, hyfforddiant, datblygu sgiliau, mentrau cymunedol, a gwelliannau amgylcheddol.

Mae hwn yn gyfle unigryw i lunio sut mae gwerth cymdeithasol yn cael ei gyflawni ledled Caerdydd a chyfrannu'n uniongyrchol at wella canlyniadau i drigolion, cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.

Byddwch yn gweithio ar brosiectau proffil uchel, yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid, ac yn helpu i sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn creu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol parhaol i'r ddinas.

Am Y Swydd

Fel Rheolwr Prosiectau Gwerth Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am arwain a chydlynu gweithgarwch gwerth cymdeithasol ar draws contractau adeiladu'r Gyfarwyddiaeth, helpu i lunio gofynion a nodir mewn pecynnau tendr a rheoli cyflenwi yn y cam adeiladu.

Byddwch yn gweithio'n agos gydag ystod o bartneriaid gan gynnwys; contractwyr, ysgolion, darparwyr hyfforddiant, sefydliadau trydydd sector, busnesau bach a chanolig a rhanddeiliaid mewnol i nodi cyfleoedd a gwneud y mwyaf o ganlyniadau i gymunedau a grwpiau agored i niwed sydd fwyaf mewn angen.

Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:

Datblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau gwerth cymdeithasol ar draws contractau'r Cyngor.

Llunio gofynion gwerth cymdeithasol o fewn prosesau caffael.

Cefnogi'r broses o werthuso ymrwymiadau gwerth cymdeithasol yn ystod asesiadau tendr.

Adeiladu partneriaethau cryf gydag ystod o sefydliadau.

Creu cyfleoedd cyflogaeth, prentisiaethau, hyfforddiant a phrofiad gwaith, yn enwedig i bobl ifanc a thrigolion agored i niwed.

Monitro perfformiad contractwyr wrth gyflawni gofynion gwerth cymdeithasol

Rheoli prosesau adrodd a chadw cofnodion cywir trwy systemau monitro gwerth cymdeithasol y Cyngor.

Nodi risgiau a chefnogi contractwyr i wella cyflawni lle bo angen.

Hyrwyddo straeon llwyddiant, astudiaethau achos, ac arfer gorau ar draws y sefydliad a rhwydweithiau rhanddeiliaid ehangach.

Sicrhau bod gweithgarwch gwerth cymdeithasol yn cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor ac amcanion lles ehangach.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Rydym yn chwilio am rywun sy'n cyfuno meddwl strategol ag angerdd am gyflawni canlyniadau cymdeithasol cadarnhaol ac yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer darparu cyfleoedd o ansawdd uchel i bawb.

Bydd gennych brofiad amlwg o gyflawni prosiectau gwerth cymdeithasol neu fuddion cymunedol yn llwyddiannus mewn amgylchedd caffael sector cyhoeddus, yn ôl y ddeddfwriaeth gyfredol.

Bydd gennych brofiad o weithio gydag ystod eang o bartneriaid a datblygu a rheoli partneriaethau trwy gydweithio.

Mae profiad o gasglu, dadansoddi a chyflwyno data perfformiad yn ogystal â monitro perfformiad yn rhagofyniad ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â sgiliau rheoli prosiectau cryf a sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.

Yn gyfnewid am hyn cewch gyflog cystadleuol, pecyn Pensiwn rhagorol, ac oriau gwaith hyblyg gan gynnwys y cyfle i weithio’n hybrid.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â David Jaques, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu ac Adfywio ar 07779314071 neu e-bostiwch djaques@cardiff.gov.uk

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Canllawiau Gwneud Cais

Gwneud cais am swydd â ni

Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Pecyn Recriwtio

Siarter Cyflogeion

Recriwtio Cyn-droseddwyr

Nodyn Preifatrwydd

Apply for this job in 1 click

Skip the repetitive application forms

Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.

Sarah M.James T.Maya R.

Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career

Start Free Today

More from this employer

More jobs at Cardiff Council