Rheolwr Contractau Partneriaethau VAWDASV
Job Fit Check
Base Career helps you apply smarter for this job.
Full Job Posting
Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Ydych chi'n angerddol am wella canlyniadau i unigolion a chymunedau yr effeithir arnynt gan Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)?
Mae hwn yn gyfle sylweddol i arwain gwaith partneriaeth strategol a chyflawni effaith ystyrlon ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithiwr proffesiynol medrus ac ymroddedig ymuno â'r Tîm Partneriaethau a Chydgomisiynu o fewn Oedolion, Tai a Chymunedau fel Rheolwr Contractau Partneriaethau VAWDASV.
Mae'r tîm hwn yn chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu, comisiynu a goruchwylio gwasanaethau sy'n cefnogi unigolion agored i niwed, gan weithio ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys sefydliadau Iechyd, Awdurdod Lleol a'r Trydydd Sector.
Mae'r swydd hon yn amodol ar drefniadau cyllid parhaus a chaiff ei hadolygu'n flynyddol.
Buddion
Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn, gan godi i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau ychwanegol
Trefniadau gweithio hyblyg , gan gynnwys mynediad at gynlluniau amser hyblyg
Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n cynnig pensiwn diogel a hyblyg
Cyfleoedd dysgu a datblygu rhagorol i gefnogi eich dilyniant gyrfaol
Cyfleoedd datblygiad proffesiynol a rheoli cefnogol
Ynglŷn â'r Swydd
Byddwch yn arwain ar reoli a datblygu’r llwybr VAWDASV ledled Caerdydd, gan sicrhau y cyflawnir dyletswyddau statudol, gwasanaethau a gomisiynwyd, a threfniadau partneriaeth yn effeithiol
Bydd y rôl yn cynnwys:
Rheoli contractau a pherthnasoedd gyda rhwydwaith cymhleth o randdeiliaid, gan sicrhau y darperir gwasanaethau o ansawdd uchel ac y cydymffurfir â gofynion statudol
Arwain ar ddatblygu, gweithredu a monitro strategaeth VAWDASV ranbarthol mewn partneriaeth â Bro Morgannwg
Monitro, dadansoddi ac adrodd ar berfformiad gwasanaeth i uwch arweinwyr
Gweithredu fel y swyddog arweiniol ar gyfer datrys cwynion ac ymholiadau sy'n ymwneud â gwasanaethau VAWDASV
Rheoli staff sy'n gyfrifol am gydlynu strategaeth VAWDASV y Cyngor a chynorthwyo â’r gwaith o gyflwyno rhaglenni allweddol fel y fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol
Sicrhau cynrychiolaeth mewn fforymau amlasiantaethol fel cyfarfodydd diogelu a’r Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg
Gyrru datblygiad gwasanaeth a gwelliant parhaus o fewn fframwaith sy'n seiliedig ar drawma a seicoleg
Cefnogi’r gwaith o weithredu newid deddfwriaethol a pholisi ar draws y gwasanaethau tai, digartrefedd a diogelu
Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau arwain cryf, gweithio mewn partneriaeth, a'r gallu i weithredu'n effeithiol mewn gwasanaeth cymhleth a sensitif.
Profiad
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos:
Profiad sylweddol o weithio o fewn gwasanaethau tai, digartrefedd, neu VAWDASV/diogelu
Profiad cryf o reoli contractau, partneriaethau a pherthnasoedd amlasiantaethol
Profiad o reoli cwynion, materion sy’n cael eu huwchgyfeirio a sefyllfaoedd sensitif
Profiad y gellir ei brofi o reoli llinell, gan gynnwys goruchwylio a rheoli perfformiad staff
Profiad o ddadansoddi data a chynhyrchu adroddiadau o ansawdd uchel i lywio darpariaeth gwasanaethau a gwaith monitro perfformiad
Sgiliau
Y gallu i ddehongli deddfwriaeth gymhleth a'i throsi’n ymarfer gweithredol.
Sgiliau arwain, trafod a dylanwadu cryf.
Sgiliau trefnu ardderchog a'r gallu i reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu.
Sgiliau TGCh a dadansoddi data lefel uchel
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gyda phrofiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid amrywiol a chadeirio cyfarfodydd
Gwybodaeth
Gwybodaeth ymarferol dda am ddigartrefedd a deddfwriaeth tai, gan gynnwys Deddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Gwybodaeth dda o Ddeddf VAWDASV (Cymru) a'r fframweithiau diogelu ar gyfer oedolion a phlant
Nodweddion Personol
Ymrwymiad cryf i wella canlyniadau i oroeswyr VAWDASV
Gwytnwch a phroffesiynoldeb mewn amgylcheddau emosiynol heriol
Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a darparu gwasanaethau cynhwysol.
Y gallu i weithio ar y cyd ac adeiladu partneriaethau effeithiol ar draws sefydliadau
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn i chi weithio ar draws amryw leoliadau yn unol â gofynion y gwasanaeth.
Mae’r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad Safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2027 ac mae’n amodol ar drefniadau ariannu blynyddol.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.
Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg ar Lefel 1 – Lefel Mynediad.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jonathan Worlock (Jonathan.worlock@caerdydd.gov.uk).
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan .
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Canllawiau Gwneud Cais
Gwneud cais am swydd â ni
Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Pecyn Recriwtio
Siarter Cyflogeion
Recriwtio Cyn-droseddwyr
Nodyn Preifatrwydd
About Cardiff Council
The local government authority for Cardiff, Wales.
Visit company websiteJobs and hiring trendsApply for this job in 1 click
Skip the repetitive application forms
Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.
Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career
More from this employer
More jobs at Cardiff Council
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
COGYDD SYMUDOL A SWYDDOG DATBLYGU
Cardiff, GBR
MOBILE COOK & DEVELOPMENT OFFICER
Cardiff, GBR
RHEOLWR GWEITHREDOL: ARDAL LEOL A GOFAL
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
OM LOCALITY CARE
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
FLEET SUPPORT OFFICER
Cardiff, GBR
SWYDDOG CYMORTH FFLYD
Cardiff, GBR