Cynorthwy-ydd Chwarae Dechrau’n Deg (cyfnod mamolaeth dros dro)
Job Fit Check
Base Career helps you apply smarter for this job.
Full Job Posting
Am Y Gwasanaeth
Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am 2 Cynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars.
Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath. Rydym yn falch o fod yn lleoliad cynnes a chroesawgar yng nghanol y gymuned, sy'n darparu gofal plant o ansawdd uchel i blant 2-3 oed, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, fel rhan o ddarpariaeth Dechrau'n Deg. Rydym wedi ein lleoli ar dir Ysgol Gynradd Moorlands.
Mae rhieni y mae eu plant wedi mynychu Twinkle Stars wedi dweud:
"Rydw i mor ddiolchgar i'r staff, gwnaethon nhw helpu fy mab ac rwy’n gallu gweld gwelliant enfawr. Gwnaethon nhw wrando arnom am bryderon am ein mab a gwnaethant bopeth o fewn eu gallu i'n cefnogi. Mae’r staff yn wych. Mae ein mab wrth ei fodd yn mynd yno".
Mae aelod o staff wedi dweud:
' Dwi wrth fy modd yn gweithio yn Twinkle Star. Mae'r gefnogaeth gan reolwyr yn anhygoel, maen nhw bob amser yno os oes angen unrhyw beth arnoch chi. Maen nhw’n hapus i gynnig cyfleoedd i chi ddatblygu'n broffesiynol a dysgu sgiliau newydd hefyd. Dwi wedi gweithio mewn sawl lleoliad gofal plant ac yn Twinkle Star dwi wedi cael y gefnogaeth fwyaf, yn fy natblygiad proffesiynol i gyflawni fy swydd yn hyderus. Os ydych yn angerddol am weithio gyda phlant, Twinkle Star yw'r lleoliad lle byddech eisiau gweithio. '
Dyma beth ddywedodd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ein harolwg diwethaf:
‘Mae ymarferwyr yn darparu amgylchedd meithringar a gofalgar lle mae anghenion y plant yn dod gyntaf. ........... Mae'r ardaloedd chwarae dan do ac awyr agored yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i blant ei archwilio ac i ddysgu, ac mae ymarferwyr yn addasu'r ddarpariaeth a'r adnoddau mewn ymateb i ddiddordebau’r plant.'
Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i thargedu at blant dan 4 oed a’u teuluoedd. Mae gofal plant rhan-amser ar gyfer plant 2-3 oed yn un rhan o arlwy Dechrau'n Deg.
Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg Twinkle Stars yn rhan o Wasanaeth Rhianta a Chwarae Cyngor Caerdydd, yng Nghymorth Cynnar Caerdydd. Gallwch ddysgu mwy am elfennau Cymorth Cynnar drwy ymweld â'r wefan www.teuluoeddcaerdydd.co.uk .
Cefnogir y lleoliad gofal plant gan dîm arweinyddiaeth ymroddedig a phwrpasol o fewn gwasanaeth Rhianta a Chwarae Caerdydd. Rydym yn rhan o dîm amlasiantaeth ehangach o weithwyr proffesiynol sy'n darparu Gwasanaethau Rhianta a Chwarae ledled Caerdydd. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i gefnogi staff, cyfleoedd hyfforddi rhagorol a datblygiad gyrfaol.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein: Rhianta Caerdydd 0-18 – Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk) - Rhianta Caerdydd 0-18 - Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd : Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk)
Rydym hefyd yn postio ar ein tudalennau Facebook – chwiliwch am Cardiff Parenting – Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.
Am Y Swydd
Rydym yn chwilio am 2 Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm gofal plant yn Twinkle Stars. Byddwch yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol gan Gyngor Caerdydd i weithio yn y lleoliad.
Bydd y Cynorthwywyr Chwarae yn chwarae rhan allweddol wrth ymuno â thîm profiadol o staff sy'n darparu profiadau chwarae difyr a hwyliog i blant 2-3 oed. Rydym yn croesawu syniadau newydd a chyffrous gan ymgeiswyr llwyddiannus i blant ddysgu trwy chwarae a bod yn yr awyr agored. Bydd y Cynorthwyydd Chwarae yn gallu cynllunio'n effeithiol ar gyfer dysgu plant, bod yn llawn hwyl ac yn ymgysylltiol.
Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg Twinkle Stars ar agor i blant o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am - 11:30am a 12:30pm - 3pm. Oriau gwaith y swydd yw 8:30am - 3:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn gorffen am 4:30pm un noson yr wythnos i fod yn bresennol mewn cyfarfod tîm. Yr oriau â thâl yw 33.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig. Mae pob diwrnod yn cynnwys egwyl ddi-dâl o 30 munud i ginio.
Bydd gan y Cynorthwywyr Chwarae ymrwymiad i ddatblygiad plant a sicrhau bod y plant a'r teuluoedd yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu bob amser.
Yng Nghyngor Caerdydd rydym yn cymryd lles ein holl staff o ddifrif ac yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Dyma rai enghreifftiau o’r ffordd rydym yn ceisio cyflawni hyn, gyda chyfleoedd i chi fel gweithiwr:
Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.
Cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol a gynigir gan dîm datblygu’r gweithlu gwybodus ac ymroddedig, p'un a ydych newydd gymhwyso neu'n ymarferydd profiadol sy'n arbenigwr yn eich maes.
Cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa ar draws Tîm Cymorth Cynnar Caerdydd gyfan – rydym yn annog datblygiad gyrfaol ac yn cefnogi gweithwyr i sicrhau bod ganddynt fynediad i ddatblygu eu cryfderau ym mhob maes.
Rhoddir cymorth drwy fentora, goruchwyliaeth ac uwch dîm rheoli sy'n cydnabod cyflawniadau ac yn dathlu llwyddiant.
Byddwch yn cael eich cefnogi gyda sesiwn sefydlu a datblygiad proffesiynol parhaus gan reolwr llinell, a thrwy oruchwylio.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm sydd eisoes wedi’i sefydlu.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus:
Cymhwyster mewn Gofal Plant, Dysgu/Chwarae a Datblygiad (CCLD o leiaf Lefel 3) Cysylltwch â ni cyn gwneud cais am y swydd os hoffech drafod a yw eich cymhwyster neu'ch hyfforddiant yn berthnasol. Neu cymerwch gipolwg ar y rhestr o gymwysterau ar-lein Rhestr–o’r-Cymwysterau-gofynnol-ar-gyfer-gweithio-yn-y-blynyddoedd-cynnar-a-gofal-plant-yng-Nghymru – newidiadau-a-wnaed-gan-Sandie-i’r-Cyfnod Sylfaen-yn-unig–5-Ebrill-2019.pdf (gofalcymdeithasol.cymru)
Profiad amlwg o weithio gyda babanod a/neu blant dan 5 oed – gallai hyn fod mewn swydd â thâl, fel gwirfoddolwr neu fel rhan o'ch hyfforddiant.
Profiad o gyfrannu at waith tîm effeithiol – gallai hyn fod yn eich swydd gyflogedig, fel gwirfoddolwr neu drwy brofiadau coleg/hyfforddiant o waith tîm.
Profiad o ddilyn gweithdrefnau diogelu i ddiogelu plant a theuluoedd – gallai hyn fod yn brofiad o ddilyn y gweithdrefnau yn eich gwaith, rôl wirfoddol neu hyfforddiant; neu ddysgu am y polisïau a gwybodaeth am sut i'w dilyn.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y disgrifiad swydd a'r fanyleb person. Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r holl ofynion hanfodol yn y fanyleb person er mwyn cael eu gwahodd i gyfweliad. Edrychwch hefyd ar y meini prawf dymunol a chynnwys eich profiadau yn erbyn y rhain.
Mae'r rôl hon yn un rhan amesr am 33.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn. Mae'r cyflog a hysbysebir yn seiliedig ar rôl amser llawn (37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn). Bydd y cyflog gwirioneddol yn is na'r cyflog a hysbysebir oherwydd yr oriau a'r wythnosau rhan-amser a weithiwyd.
Os hoffech gael taith o gwmpas y lleoliad neu os oes gennych gwestiynau am y rôl, cysylltwch â Sarah Mackay 07817 955443/ Rachel Everett 07875 548267 a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i gwblhau'r cais am y swydd Cynorthwyydd Chwarae, gall ein Tîm Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith eich helpu. I gael rhagor o gymorth ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwch cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2028 , gyda’r posibilrwydd o’i hymestyn.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Canllawiau Gwneud Cais
Gwneud cais am swydd â ni
Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Pecyn Recriwtio
Siarter Cyflogeion
Recriwtio Cyn-droseddwyr
Nodyn Preifatrwydd
About Cardiff Council
The local government authority for Cardiff, Wales.
Visit company websiteJobs and hiring trendsApply for this job in 1 click
Skip the repetitive application forms
Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.
Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career
More from this employer
More jobs at Cardiff Council
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
COGYDD SYMUDOL A SWYDDOG DATBLYGU
Cardiff, GBR
MOBILE COOK & DEVELOPMENT OFFICER
Cardiff, GBR
RHEOLWR GWEITHREDOL: ARDAL LEOL A GOFAL
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
OM LOCALITY CARE
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
FLEET SUPPORT OFFICER
Cardiff, GBR
SWYDDOG CYMORTH FFLYD
Cardiff, GBR