{bc}
cornerstone

CYNLLUNYDD (POLISI CYNLLUNIO)

Cardiff Council
Cardiff, GBR
Full-time
Mid
Onsite
Discovered 2 weeks ago
Free

Job Fit Check

Base Career helps you apply smarter for this job.

?%
Ready to Scan
Smart Apply

Full Job Posting

Am Y Gwasanaeth

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Gwasanaeth Cynllunio sydd wedi'i leoli o fewn y Grŵp Polisi.

Mae'r Grŵp Polisi yn gyfrifol am baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd sy'n nodi gweledigaeth cynllunio hirdymor y Cyngor hyd at 2036. Fel Cynllunydd byddwch ar flaen y gad o ran ein helpu i gyflawni'r weledigaeth gynllunio hon ar gyfer y ddinas yn y dyfodol.

Eich rôl chi fydd helpu i lunio a gweithredu polisïau ar ystod o bynciau gan gynnwys twf tai a chyflogaeth yn y dyfodol i bolisïau sy'n anelu at fynd i'r afael â'r argyfyngau a ddatganwyd ar yr hinsawdd a natur. Mae hwn yn gyfnod sylweddol o newid i'r ddinas ac mae'r rôl hon yn rhoi cyfle i helpu llunio dinas yfory.

Am Y Swydd

Byddwch wrth wraidd datblygu, gweithredu a monitro polisi cynllunio’r dyfodol ar gyfer y ddinas.

Byddwch yn gyfrifol am:

Gynorthwyo i lunio, gweithredu a monitro polisi a chanllawiau cynllunio, gan gynnwys paratoi'r gwaith sy’n mynd rhagddo ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd a'r Canllawiau Cynllunio Atodol cysylltiedig,

Cynorthwyo i lunio mewnbwn y Cyngor i baratoi'r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer De-ddwyrain Cymru.

Casglu a dadansoddi data a drafftio adroddiadau a phapurau technegol i gefnogi'r gwaith o baratoi, gweithredu a monitro polisi cynllunio

Cyflwyno adroddiadau, papurau technegol mewn cyfarfodydd, pwyllgorau, ymchwiliadau cyhoeddus a sefydliadau allanol.

Cydlynu, cysylltu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol i sicrhau ymagwedd cydweithredol i gyflawni polisi cynllunio.

Ateb ymholiadau gan y cyhoedd, aelodau, cydweithwyr ac eraill ynglŷn ag amrywiaeth o faterion yn ymwneud â pholisi cynllunio

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Mae’r rôl ar gyfer unigolyn brwdfrydig sy’n gallu dangos y gofynion ac yn meddu ar y profiad a nodir yn y Fanyleb Person. Rydym yn chwilio am berson diwyd a llawn cymhelliant sy’n gallu gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun ac sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol da i ymuno â’n tîm. Bydd y rôl yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â rhywfaint o wybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n ymwneud â Chynlluniau Datblygu Lleol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Canllawiau Gwneud Cais

Gwneud cais am swydd â ni

Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Pecyn Recriwtio

Siarter Cyflogeion

Recriwtio Cyn-droseddwyr

Nodyn Preifatrwydd

Apply for this job in 1 click

Skip the repetitive application forms

Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.

Sarah M.James T.Maya R.

Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career

Start Free Today

More from this employer

More jobs at Cardiff Council