Cogydd
Job Fit Check
Base Career helps you apply smarter for this job.
Full Job Posting
Am Y Gwasanaeth
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni bod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well.
Am Y Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig gyda sgiliau gwych i ymuno â thîm yr Hybiau Gofal ledled y ddinas.
Bydd gofyn i chi baratoi bwyd i'r safon uchaf ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth a choginio prydau maethlon, gan weithredu'r ystod lawn o ddyletswyddau cegin gan gynnwys rheoli iechyd a diogelwch a phrotocolau hylendid bwyd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Darparu gwasanaeth proffesiynol o safon uchel bob amser.
Sicrhau bod y grŵp cleient yn cael diet amrywiol a maethlon drwy baratoi, coginio a chyflwyno bwyd i safon uchel.
Cynnal safonau hylendid a glanweithdra uchel mewn perthynas â chyfarpar ac amgylchedd y gegin ac ardaloedd paratoi bwyd a storfeydd cysylltiedig.
Gweithio’n agos gyda swyddogion ac adrannau eraill i sicrhau y darperir gwasanaeth cydlynol.
Chwarae rhan weithredol yn yr Hybiau Gofal, Hybiau a Llyfrgelloedd gan sicrhau bod aelodau’r tîm yn cyfathrebu’n dda gyda'i gilydd, eich bod yn cyfrannu at waith y tîm ac yn gweithio mewn lleoliadau eraill ar fyr rybudd yn ôl yr angen.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, o fantais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, Emma Fisher e-bostiwch Emma.Fisher@cardiff.gov.uk
Rydym yn cymryd lles ein holl staff o ddifrif ac yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Dyma rai enghreifftiau o sut rydym yn ceisio cyflawni hyn:
Hawl i wyliau blynyddol hael
Trefniadau gweithio y gellir eu haddasu, a all gynnwys cynllun fflecsi
Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
Gostyngiadau drwy Edenred – gan arbed arian i chi ar eitemau bob dydd.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Canllawiau Gwneud Cais
Gwneud cais am swydd â ni
Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Siarter y Gweithwyr
Recriwtio Cyn-droseddwyr
Nodyn Preifatrwydd
About Cardiff Council
The local government authority for Cardiff, Wales.
Visit company websiteJobs and hiring trendsApply for this job in 1 click
Skip the repetitive application forms
Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.
Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career
More from this employer
More jobs at Cardiff Council
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
COGYDD SYMUDOL A SWYDDOG DATBLYGU
Cardiff, GBR
MOBILE COOK & DEVELOPMENT OFFICER
Cardiff, GBR
RHEOLWR GWEITHREDOL: ARDAL LEOL A GOFAL
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
OM LOCALITY CARE
Cardiff, GBR
ASSISTANT COOK - BADEN POWELL PRIMARY SCHOOL
Cardiff, GBR
FLEET SUPPORT OFFICER
Cardiff, GBR
SWYDDOG CYMORTH FFLYD
Cardiff, GBR